Ein tafod powerpoint презентация

Un diwrnod, pan oedd Jo yn palu’r ardd, fe drawodd ei fforch yn erbyn rhywbeth caled yn y pridd. Fe dyllodd yn ddyfnach a dod o hyd i hen focs metel.

Слайд 1 Roedd yr hen Jo a’i wraig Nani wedi bod yn byw

yn eu bwthyn am dros 30 mlynedd. Roedden nhw wedi cael bywyd da, ond roedd gan Nani un gwendid: roedd hi’n un am gario straeon. Roedd hi’n hoffi gwybod beth oedd busnes pawb. Doedd hi ddim yn gallu cadw cyfrinach, ac roedd hi’n cario straeon am bawb.



Слайд 2


Слайд 3Un diwrnod, pan oedd Jo yn palu’r ardd, fe drawodd ei

fforch yn erbyn rhywbeth caled yn y pridd. Fe dyllodd yn ddyfnach a dod o hyd i hen focs metel. Wedi iddo rwbio’r pridd oddi arno a’i agor, fe welodd fod 12 darn aur yn y bocs. Fe wyddai, pe byddai’n dweud wrth Nani y byddai hi’n dweud wrth bawb, a doedd ar Jo ddim eisiau i bawb ddod i wybod eu busnes. Efallai y byddai rhywrai yn dod yno i geisio’i berswadio mai nhw oedd piau’r arian. Felly, penderfynodd Jo ddysgu gwers i Nani. Yn gyntaf, fe guddiodd y bocs yn ei sied yn yr ardd. Yna fe aeth at yr afon a dal pysgodyn mawr. Aeth â’r pysgodyn i’w ardd a’i roi rhwng y rhesi pys. Wedyn fe aeth i’r cae a dal cwningen a’i rhoi yn y rhwyd bysgota wrth yr afon.

Слайд 5Galwodd ar Nani. ‘Bobol bach !’ meddai. ‘Mae rhywbeth rhyfedd yn

digwydd yn y lle yma! Edrych, mae pysgod yn byw ymysg y pys!’ Yna, fe aeth â Nani at yr afon. ‘Edrych,’ meddai ‘Mae cwningen yn byw yn yr afon! Mae pysgod yn byw ar y tir a chreaduriaid y goedwig yn byw yn y dwr!’ Allai Nani ddim aros nes cael dweud wrth rywun. Rhedodd i lawr i’r pentref a dweud wrth bawb a welodd yno am y pethau rhyfedd oedd yn digwydd. Daeth rhai pobl i’r bwthyn i weld drostyn nhw’u hunain ond, wrth gwrs, roedd yr hen Jo wedi symud y pysgodyn a’r gwningen erbyn hynny. Doedd dim tystiolaeth, felly doedd neb yn credu stori Nani. Ar ôl hynny doedden nhw ddim am gredu dim o’i straeon.

Слайд 6Ar ôl peth amser, fe ddywedodd yr hen Jo wrth Nani

am y bocs roedd o wedi dod o hyd iddo yn yr ardd, a’r darnau aur ynddo. Ac fel roedd Jo’n disgwyl, fe aeth Nani ar ei hunion i’r pentref i ddweud wrth bawb. Ond, yn naturiol doedd neb yn ei chredu. ‘Diolch byth am hynny,’ meddai Jo. ‘Nawr, fe allwn ni fyw’n gyfforddus am weddill ein hoes, a fydd neb yn gwybod ein cyfrinach.’ A dyna beth ddigwyddodd, wnaeth Nani ddim cario rhagor o straeon am ei bod yn gwybod erbyn hynny na fyddai neb yn coelio unrhyw beth a ddywedai. Roedd cynllun yr hen Jo wedi gweithio.


Обратная связь

Если не удалось найти и скачать презентацию, Вы можете заказать его на нашем сайте. Мы постараемся найти нужный Вам материал и отправим по электронной почте. Не стесняйтесь обращаться к нам, если у вас возникли вопросы или пожелания:

Email: Нажмите что бы посмотреть 

Что такое ThePresentation.ru?

Это сайт презентаций, докладов, проектов, шаблонов в формате PowerPoint. Мы помогаем школьникам, студентам, учителям, преподавателям хранить и обмениваться учебными материалами с другими пользователями.


Для правообладателей

Яндекс.Метрика